Mae un person wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl i gar daro arhosfan fysiau yng Nghasnewydd.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 6 o’r gloch y bore ma yn dilyn y gwrthdrawiad ger siopau Maesglas.

Mae’r heddlu’n dal ar y safle.

Cafodd dau o bobol eu hanafu, gan gynnwys un person sydd wedi’i gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol.

Mae’r ffordd ynghau i’r gorllewin o hyd, a thraffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.