Poteli plastig (Llun: Wikipedia)
Gallai poteli plastig achosi afiechydon fel canser a chlefyd y siwgr, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan wyddonwyr.
Mae lle i gredu bod poteli plastig yn cynnwys cemegion sy’n gallu niweidio hormonau sy’n cael eu cysylltu ag ADHD ac awtistiaeth.
Mae’r cemegion i’w cael mewn llu o gynhyrchion bob dydd, gan gynnwys pecynnau plastig a metel, hylifau golchi dillad, teganau a cholur.
Yn ôl gwyddonwyr yng nghanolfan feddygol Langone Prifysgol Efrog Newydd, mae’r afiechydon y mae’r cynhyrchion yn eu hachosi yn costio hyd at $340 biliwn y flwyddyn.
Cyflyrau niwrolegol yw’r afiechydon mwyaf cyffredin sy’n deillio o’r cynhyrchion.
Maen nhw hefyd yn gallu achosi gordewdra, anffrwythlondeb ymhlith dynion ac endometriosis ymhlith menywod.
Mae’r brifysgol yn galw ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i lunio polisi er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, yn ôl asiantaeth newyddion AFP.
Mae rhai o’r cemegion wedi’u gwahardd yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.