John Whittingdale
Mae pryderon wedi’u mynegi ar ôl i gyn-Ysgrifennydd Diwylliant Llafur, James Purnell, gael ei benodi’n Bennaeth Radio newydd y BBC, i olynu Helen Boaden.
Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan, John Whittingdale, mae James Purnell yn cael ei baratoi i fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol nesa’r gorfforaeth. Ac mae’r ffaith ei fod yn gyn-wleidydd sydd wedi derbyn cyfrifoldebau golygyddol hefyd yn achosi pryder i John Whittingdale.
Cafodd James Purnell ei benodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth y BBC yn 2013 ar gyflog o £295,000 ac fe ddywedodd John Whittingdale fod ei benodi wedi gosod “cynsail peryglus” o safbwynt sicrhau bod y Gorfforaeth yn aros yn ddi-duedd.
Yn dilyn trafodaeth ynglyn â drafft Siartr Frenhinol nesa’r BBC, dywedodd John Whittingdale: “Pan gafodd James Purnell ei benodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth gan y BBC yn 2013, ddim ond tair blynedd ar ôl rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol Llafur ac oddeutu pum mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i fod yn Ysgrifennydd Gwladol, fe wnes i gwestiynu’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ynghylch y penodiad o fewn y pwyllgor dethol.”
“Gofynnais a oedd yna rywun nad oedd yn unig â chysylltiadau gwleidyddol ond a oedd wedi bod yn wleidydd pleidiol gweithgar yn derbyn swydd reoli yn y BBC cyn hynny… ond bryd hynny, y ddadl oedd nad oedd swydd James yn un olygyddol.
“Bellach mae e wedi dod yn Gyfarwyddwr Radio ac Addysg,” meddai John Whittingdale wedyn. “Fel Cyfarwyddwr Radio, mae ganddo gyfrifoldeb am allbwn cyfanswm helaeth o gynnwys y BBC, ac mae’n amhosib dweud nad oes ganddo fe ran mewn penderfyniadau golygyddol.
“Yn wir, r’yn ni wedi cael gwybod ei fod e’n cael ei feithrin fel ymgeisydd posib i fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, swydd sydd, wrth gwrs, hefyd yn golygu bod yn brif olygydd y BBC.
“Rwy’n hoffi James Purnell. Ry’n ni’n cyd-dynnu’n dda, r’yn ni’n cael trafodaethau cadarn, r’yn ni’n cytuno ar gryn dipyn. Does gen i ddim amheuon o gwbwl am ymrwymiad James Purnell i sicrhau bod y BBC yn ddi-duedd, yn yr un ffordd ag yr wy’n ymrwymo’n llawn i agwedd ddi-duedd y BBC.”
Ond fe ddywedodd y byddai cefnogi’r penodiad yn “destun bonllefau o warth”.