Mae’r heddlu yn edrych am ddyn yn gwisgo mwgwd clown a siaced felen ar ôl iddo drywanu rhywun yn ne Sweden.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Ulla Brehm, fod dau ddigwyddiad tebyg wedi bod lle’r oedd pobol wedi gwisgo fel clowns a sefyll y tu allan i ysgolion yn codi ofn ar blant.

Mae’r chwiw o wisgo fel clowniau a chodi ofn ar bobol wedi lledu o’r Unol Daleithiau drwy gyfryngau cymdeithasol, gydag achosion yng Nghymru hefyd.

Dywedodd Ulla Brehm fod dyn 19 oed wedi cael ei drywanu yn ei ysgwydd â chyllell nos Iau yn Varberg, ger dinas Goteborg.

Doedd ei anafiadau ddim yn ddifrifol ond does neb wedi dod o hyd i’r ymosodwr eto.

Mae digwyddiadau tebyg wedi bod yn Nenmarc a Norwy hefyd, ac mae’r cwmni gwerthu teganau yno, Ringo, wedi penderfynu peidio gwerthu gwisgoedd clown yn y 114 o’i siopau.

“Mae hyn yn ffenomenon rydym yn gryf yn ei erbyn,” meddai prif weithredwr y cwmni, Gro Svendsen.

“Dylai gwisgoedd fod er mwyn cael hwyl ac nid er mwyn codi ofn.”