Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru ac elusennau ffoaduriaid yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Prydain i “gymryd camau brys” i adleoli mwy o blant yn y Deyrnas Unedig sydd ar eu pen eu hunain yn edrych am loches.

Mae Carwyn Jones, ynghyd â chynrychiolwyr o bedair elusen yng Nghymru hefyd yn cynnig cefnogaeth i’w croesawu.

“Rydym yn nodi bod Llywodraeth Ffrainc yn bwriadu cael gwared â gwersyll y ‘jyngl’ yn Calais,” meddai’r criw yn y datganiad ar y cyd.

“Rydym yn gofyn i Theresa May, Prif Weinidog y DU, fel mater brys, i ganiatáu i’r holl blant hynny sy’n ffoaduriaid ac sydd â hawl gyfreithiol i fod yn y DU ddod yma cyn gynted ag y bo modd.

“Mae plant y gwersyll, rhai ohonynt mor ifanc ag wyth oed, wedi dianc rhag gwrthdaro ac erledigaeth ac maent, bellach, wedi’u dal yng ngogledd Ffrainc. Maent wedi dioddef trawma aruthrol ac mewn cryn berygl.”

129 o blant wedi mynd ar goll

Yn ôl ffigurau’r elusen Help Refugees, pan gafodd gwersylloedd ffoaduriaid Calais fynd y tro diwethaf, aeth 129 o blant ar goll ac mae adroddiadau eraill yn awgrymu bod tri phlentyn wedi marw yn ceisio cyrraedd y Deyrnas Unedig ar eu pen eu hunain.

Dydd Llun, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ei fod yn gweithio gyda Llywodraeth Ffrainc i geisio ailsefydlu plant sydd â hawl gyfreithiol i fod yn y Deyrnas Unedig dan Reoliadau Dulyn.

Ond yn ôl y datganiad, mae angen gwneud rhywbeth ar frys, gyda’r argyfwng yn peryglu plant i gael eu tynnu i gaethwasiaeth fodern a chael eu hecsbloetio.

“Mae’r sefyllfa yn galw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth y DU. Allwn ni ddim â throi ein cefnau ar y plant hyn. Mae pob diwrnod ychwanegol yn rhoi’r plant hyn mewn perygl mwy,” meddai’r datganiad.

Yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru, Mary Powell-Chandler, Pennaeth Hawliau’r Plentyn Cymru, Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru a Jim Barnaville, Cyd-Cadeirydd Citizens Cymru Wales wedi arwyddo’r datganiad.