Heddlu'r Almaen
Mae’r heddlu yn yr Almaen wedi arestio dyn o Syria ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiad bom.

Yn ôl heddlu Sacsoni, fe gafodd Jaber Albakr 22 oed, ei arestio yn ninas ddwyreiniol Leipzig ar ôl ymchwiliad deuddydd gan yr awdurdodau.

Mae lle i gredu fod y dyn yn wreiddiol o Damascus yn Syria ac wedi dod i’r Almaen yn 2015 fel ceisiwr lloches, ymysg y 890,000 o fudwyr eraill ar y pryd.

‘Dod o hyd i ffrwydradau’

Fe wnaeth heddlu Sacsoni ddechrau chwilio amdano  ddydd Sadwrn ar ôl gwybodaeth gan wasanaethau cudd-wybodaeth yr Almaen y gallai’r dyn fod yn cynllunio ymosodiad.

Fe wnaethon nhw chwilio fflatiau yn ninas Chemnitz gan ddod o hyd i ffrwydron, ond llwyddodd Jaber Albakr i osgoi’r awdurdodau bryd hynny.

Yna, fe glywsant ei fod wedi teithio i ddinas Leipzig, 50 milltir i ffwrdd, ac fe ddaethant o hyd iddo a’i arestio yno.

Mae’r cyfryngau yn yr Almaen wedi adrodd y gallai Jaber Albakr fod â chysylltiadau â grwpiau Islamaidd eithafol, ond nid yw’r awdurdodau wedi cadarnhau hynny.

Ym mis Gorffennaf, cafodd dau ymosodiad arall eu cynnal gan geiswyr lloches a’u hawlio gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS), ac mae hefyd yn dilyn ymosodiadau nad sy’n gysylltiedig ag eithafiaeth Islamaidd lle cafodd pobl eu lladd yn dilyn saethu mewn canolfan siopa yn Munich yn ystod yr haf.