Plentyn yn cael chwistrelliad trwynol Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae plant rhwng dwy a saith oed yng Nghymru yn cael cynnig y brechlyn ffliw am y tro cyntaf.
Fel rhan o ymgyrch flynyddol y Llywodraeth, mae pobol sy’n 65 a hŷn, pobl sydd â rhai cyflyrau iechyd cronig tymor hir penodol a menywod beichiog eisoes yn cael cynnig y pigiad am ddim.
O heddiw ymlaen, fe fydd plant ifanc hefyd yn gymwys i gael y brechlyn ond fe fydd yn cael ei roi fel chwistrell drwynol i blant dwy a thair oed yn eu meddygfa leol, tra bydd plant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1, 2 a 3 yn yr ysgol gynradd yn cael y chwistrelliad trwynol yn yr ysgol.
‘Cymhlethdodau difrifol’
Cynhelir clinigau brechu ar draws gogledd Cymru ac mae Siobhan Adams, Dirprwy Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog pawb sy’n gymwys i fynd i gael y pigiad ffliw.
“Gall y ffliw achosi cymhlethdodau difrifol ac arwain at farwolaeth hyd yn oed.
“Gall brechiad y ffliw lleihau’r siawns o gael y ffliw yn sylweddol, ac felly mae hi’n bwysig iawn bod yr unigolion hynny sy’n cael cynnig brechiad y ffliw gan eu Meddygon Teulu gymryd y cynnig a mynd i weld eu Meddygon Teulu neu fferyllfa leol cyn gynted â phosibl i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn.
Ychwanegodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, sy’n lansio ymgyrch ‘Curwch Ffliw’ heddiw: “Gall pobol hefyd addunedu i Guro Ffliw drwy atgoffa perthnasau a ffrindiau cymwys i gael eu brechlyn ffliw yr hydref hwn.”