Corwynt Matthew
Mae Corwynt Matthew yn bygwth nifer o daleithiau wrth iddo symud ar hyd yr arfordir yn yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl llifogydd a gwyntoedd cryfion yn Florida, Georgia a De Carolina.

Hwn yw’r corwynt mwyaf peryglus ar hyd yr arfordir hwnnw ers degawd, ac mae 300 o bobol eisoes wedi marw yn Haiti.

Fe gyrhaeddodd Florida ddydd Gwener, lle bu miliwn o bobol heb drydan ers hynny wrth i’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o 120 milltir yr awr.

Bu farw o leiaf bedwar o bobol yn y dalaith, gan gynnwys cwpl oedrannus oherwydd effeithiau carbon monocsid, a dwy ddynes o ganlyniad i goeden yn cwympo ar eu cartref a’u cerbyd.