Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr brynhawn dydd Gwener.

Cafodd y dyn 19 oed ei daro gan gar Dacia Sandero glas wrth iddo gerdded ar yr A4106 (Ffordd Llandudwg).

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn hofrennydd.

Cafodd dyn arall anafiadau yn y digwyddiad wrth i’r car yrru ar y palmant wrth deithio o gyfeiriad Porthcawl tua’r A48 am 4 o’r gloch.

Mae’n derbyn triniaeth am fan anafiadau yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Heddlu’r De mewn datganiad fod gyrrwr 49 oed y car yn eu cynorthwyo â’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.