Mae’r iaith Gymraeg yn swnio’n eitha’ tebyg i Rwsieg ar adegau, yn ôl merch ysgol sydd wedi symud i Gricieth o Rwsia a llwyddo i ennill A* yn ei hail iaith.
Mae Nina Parry-Jones, 16, wedi cael A* mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith ar ôl symud i Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes heb air o Gymraeg dair blynedd yn ôl.
Er ei bod hi’n ei chael hi’n anodd dysgu’r iaith ar y cychwyn am fod ganddi acen gref, fe ddechreuodd sylwi ar debygrwydd rhwng synau’r ddwy iaith, meddai wrth golwg360.
Mae hi bellach wedi setlo yn yr ysgol, meddai, efo criw da o ffrindiau – ac mae’n rhugl ei Chymraeg. Ar ben hynny mae ganddi radd A* mewn iaith a fuodd hi’n ei dysgu am lai na dwy flynedd.
Gwrandewch ar be’ mae Nina’n ei feddwl o ddileu’r pwnc Cymraeg Ail Iaith yn y clip yma: