Corwynt Matthew (Llun: Wikipedia)
Mae nifer y meirw yn sgil Corwynt Matthew bellach bron â chyrraedd 300, gyda disgwyl i’r ffigwr godi’n llawer uwch yn ôl swyddogion.
Bu pobol yn ne-orllewin Haiti yn tyrchu trwy rwbel eu cartrefi i geisio achub unrhyw beth y medran nhw ar ôl i’r gwyntoedd 145 milltir yr awr chwalu’r ardal ddydd Mawrth.
Dywedodd un o swyddogion asiantaeth Gwarchodaeth Sifil Haiti bod ei dîm yn Jérémie wedi dod o hyd i 82 o gyrff nad ydyn nhw wedi cael eu cofnodi eto oherwydd trafferthion cyfathrebu.
“Mae hi’n llanast llwyr. Mae pob tŷ wedi colli ei do,” meddai maer tref Camp Perrin ar arfordir y de.
Fe wnaeth Corwynt Flora ladd 8,000 o bobol pan darodd Haiti yn 1963 ac mae’r llywodraeth bresennol yn amcangyfrif bod o leiaf 350,000 o bobol angen llety neu ddŵr glân ar hyn o bryd.
Mae’r corwynt wedi cyrraedd Florida erbyn hyn – y storm fwya’ pwerus i fygwth arfordir Atlantig America ers dros ddegawd.