Chris Denning
Mae un o gyn-DJs Radio 1 y BBC wedi ei garcharu am 13 mlynedd wedi iddo gyfaddef cam-drin 11 o fechgyn.

Plediodd Chris Denning, 75 oed o Lundain, yn euog fis Awst i 21 o droseddau rhyw gyda phlant rhwng 1969 a 1986. Roedd yn gwadu tri chyhuddiad arall.

Roedd Chris Denning yn un o’r DJs gwreiddiol ar Radio 1 pan gafodd ei lansio yn 1967.

Dywedodd y Barnwr Alistair McCreath wrth Lys y Goron Southwark bod effaith yr ymosodiadau ar y dioddefwyr, a oedd bellach yn ddynion, wedi bod yn “ofnadwy”.

Defnyddio’i enwogrwydd

Roedd y DJ wedi defnyddio’i enwogrwydd i hudo’r bechgyn i’w gartref a rhoi recordiau, sigaréts ac alcohol iddyn nhw.

Fe ddangosodd bornograffi iddyn nhw cyn eu gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol ac fe dynnodd eu lluniau yn noeth.

Mae Chris Denning eisoes dan glo am 13 o flynyddoedd am ymosod yn rhywiol ar 24 o ddioddefwyr rhwng y 1960au a’r 1980au.