Mae dyn yn cario cyllell wedi trywanu dau heddwas yn ninas Brwsel, mewn digwyddiad a allai fod yn un terfysgol, yn ôl yr awdurdodau.

Dyma’r ymosodiad diweddara’ ar swyddogion heddlu gwlad Belg, er bod y wlad gyfan wedi bod ar bigau’r drain ers i 32 o bobol gael eu lladd mewn ymosodiadau gan hunanfomwyr ar y maes awyr a’r gorsafoedd tanddaearol ar Fawrth 22 eleni.

Yn yr ymosodiad heddiw, fe gafodd un heddwas ei drywanu yn ei wddw, a’r llall yn ei stumog yn ardal Schaerbeek o’r brifddinas.

Fe gafodd ei rwystro gan ail grwp o blismyn, ond fe lwyddodd i dorri trwyn trydydd heddwas, cyn i hwnnw saethu’r dyn arfog yn ei goes.

Ar Fedi 7,  fe fu ymosodiad ar ddau heddwas yn ardal Molenbeek o ddinas Brwsel, a hynny gan ddyn yn cario cyllell.