Mae Tesco wedi cyhoeddi bod elw’r cwmni i lawr 28.3% yn ystod y chwarter diwetha’, ond bod gwerthiant ar i fyny serch hynny am y trydydd chwarter yn olynol.
Roedd elw’r cwmni cyn treth yn £71 miliwn am y chwe mis hyd at Awst 26. Roedd cynnydd o 0.9% yn eu gwerthiant, dair gwaith y cynnydd yn ystod y tri mis blaenorol.
Mae prif weithredwr yr archfarchnad, Dave Lewis wedi amlinellu cynlluniau i dorri costau o £1.5 biliwn er mwyn cynyddu eu helw.
Does dim disgwyl i’r toriadau effeithio ar swyddi, ac fe rybuddiodd Dave Lewis fod y farchnad yn parhau’n “heriol ac yn ansicr”.
Mae cyfrannau’r archfarchnad i fyny 9% yn dilyn eu perfformiad o ran gwerthiant.
“Megis dechrau” mae adferiad Tesco, yn ôl Dave Lewis.