Corwynt
Mae pobol yn Haiti wedi cael eu rhybuddio am lifogydd a gwyntoedd cryfion wrth i gorwynt ‘Matthew’ nesáu at y wlad.

Mae disgwyl i’r corwynt, sydd â gwyntoedd yn mesur 130 milltir yr awr, basio dwyrain Jamaica cyn croesi’n agos iawn at dde orllewin Haiti yn hwyr nos Lun yn eu hamser nhw neu’n gynnar fore Mawrth.

Mae Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau hefyd yn rhybuddio y gallai’r storm daro ochr ddwyreiniol Ciwba brynhawn Mawrth.

Rhybuddio pobol Haiti

Mae proffwydi’r tywydd yn rhagweld y gallai cymaint â 40 modfedd o law ddisgyn mewn rhai rhannau ynysig o Haiti gan gynyddu’r perygl o dirlithriadau a llifogydd yno.

Yn ôl asiantaeth diogelwch sifil Haiti, mae tua 1,300 o lochesi argyfwng ar gael yn y wlad sy’n ddigon i ddal 340,000 o bobol.

Mae’r awdurdodau wedi darlledu rhybuddion ar y radio i bobol wneud trefniadau i geisio lloches mewn adeiladau cymunedol pan ddaw’r storm.

Mae corwynt Matthew yn un o’r corwyntoedd Atlantig mwyaf pwerus mewn hanes diweddar a chyrhaeddodd gategori 5 ar un adeg, sy’n ei gwneud y corwynt cryfaf yn y rhanbarth ers ‘Felix’ yn 2007.