Huw Edwards yn cyflwyno rhaglenni Refferendwm yr Alban (Llun: YouTube)
Roedd cyflwyno “dadl gall” cyn y refferendwm adael neu aros yn Ewrop eleni, yn “hunllef” i newyddiadurwr yn y BBC, meddai Huw Edwards, sy’n credu ein bod ni bellach yn byw mewn byd “Trump-aidd iawn” sy’n gwrthod derbyn unrhyw ffeithiau nac ystadegau swyddogol.
Roedd pethau’n dipyn haws i newyddiadurwyr papurau newydd, meddai cyflwynydd 10 O’clock News y BBC wedyn.
“Os ydych chi’n gweithio i’r papurau newydd, dyw hi ddim yn anodd o gwbwl achos does dim rhaid i chi fod yn deg,” meddai Huw Edwards wrth gynulleidfa Penwythnos yr Inc yng Nghaernarfon. “Does dim unrhyw fath o bwysau arnoch chi i fod yn deg. Hynny yw, mae’r darlledwyr, o leia’ – Sky, ITV, ni, Channel 4, pwy bynnag ydyn ni – mae darlledwyr yn ôl y gyfraith yn gorfod gwneud ymdrech i fod yn deg.
“Wrth gwrs ein bod ni’n gwneud camgymeriadau… ond mae yna ofynion clir arnon ni, yn gyfreithiol. Does dim byd felly i bapurau newydd, ac o’n nhw’n aml iawn yn gallu cyhoeddi propaganda a gwneud mas ei fod e’n newyddion. Neu roi barn. Neu newid goslef neu’r math o eiriad sydd mewn stori er mwyn ceisio darbwyllo pobol.”
Trafodaeth gall
“Y cyfan oedd gyda ni oedd honiade,” meddai Huw Edwards wedyn, “er ein bod ni’n gwybod nawr bod rhai o’r rheiny’n anwiredd, neu’n gamarweiniol… a phob math o gyhuddiadau ar y naill ochr a’r llall.
“Y Trysorlys yn rhoi ffigyrau mas, ac oedd pobol yn eu hame. Oedd ‘Leave’ yn dweud pethe ynglyn â gwariant ar iechyd, ac yn y blaen… a’r broblem i ni oedd ceisio cael rhyw fath o drafodaeth i fynd ar y rhain, a hefyd i wneud e’n glir bod yna gonsensws ymhlith arbenigwyr ynglyn â rhai pethau.
“Ond unwaith ydych chi’n dechre dweud hynny, wrth gwrs, mae pobol yn dweud ‘Dydych chi ddim yn bod yn deg nawr, chi’n cymryd ochre…
“R’yn ni’n byw mewn byd Trump-aidd iawn nawr,” meddai Huw Edwards. “Pobol yn dweud, ‘dw i ddim yn credu’. Dyma’r ystadege swyddogol: ‘Dw i ddim yn credu rheina’. Wel, dyma’r ystadege. ‘Wy ddim yn eu credu nhw, chi wedi neud nhw lan’.
“Dyna’r byd ydyn ni ynddo fe, ac o ran newyddiadurwyr, mae’n dipyn o her, credwch chi fi, i gael rhyw fath o ddadl gall o gwmpas y pyncie mawr, mawr, mawr.”
Cwynion
Mae Huw Edwards yn cadarnhau ei fod ef a’r BBC yn dal i dderbyn cwynion am y modd yr adroddwyd ymgyrch Refferendwm Annibyniaeth yr Alban cyn y bleidlais ym Medi 2018.
Ond, mewn ymateb i gwestiwn o’r llawr ynglyn â’r modd y bu cymaint o raglenni’r Gorfforaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at y pôl, yn cynnwys y geiriau ‘British’ a ‘Britain’, dydi Huw Edwards ddim yn derbyn hynny.
“Allwch chi ddim rhoi’r bai ar y Great British Bake Off am bethe fel’na,” meddai.