Francesco'n gadael (Roberto Vicario?CCA 3.0)
Yn ôl y disgwyl, mae Francesco Guidolin wedi cael y sac o swydd rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.

Fe gyhoeddodd amser cinio fod yr Eidalwr yn gadael a chyn-reolwr tîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Bob Bradley, yn dod yn ei le.

Roedd perchnogion  newydd Americanaidd y clwb, a’r Cadeirydd Huw Jenkins, wedi cwrdd â Bradley ychydig ddyddiau’n ôl, ynghyd â rhai ymgeiswyr posib eraill.

Er hynny, roedden nhw wedi dweud nad oedd swydd Guidolin yn dibynnu ar ganlyniad y gêm yn erbyn Lerpwl ddydd Sadwrn, gêm a gollwyd ganddyn nhw o 1-2.

Le Havre

Ar hyn o bryd, mae Bob Bradley’n rheoli clwb Le Havre sydd yng nghanol ail gynghrair bêl-droed Ffrainc.

Fe fydd yn cael ei ryddhau gan Le Havre ar ôl eu gêm ganol yr wythnos.

Mae hefyd wedi rheoli tîm cenedlaethol yr Aifft.