Dale Evans (Llun o wefan boxrec.com)
Mae’r bocsiwr o Gymru Dale Evans yn dweud ei fod yn “teimlo’n gyfrifol” am farwolaeth ei wrthwynebydd Mike Towell mewn gornest nos Iau ddiwethaf.
Bu farw Mike Towell, 25, yn yr ysbyty, ddiwrnod ar ôl dioddef anafiadau i’w ben yn y cylch bocsio yng Nglasgow. Roedd wedi dioddef o waedu difrifol a’i ymennydd wedi chwyddo.
“Dw i’n teimlo mai fi sy’n gyfrifol. Alla’ i ddim peidio â meddwl am Mike a’i deulu. Mae fy nghydymdeimlad llwyr gyda nhw,” meddai Dale Evans, 24, wrth siarad ag Adran Chwaraeon BBC Wales.
“…Mae hyn yn rhywbeth y bydd rhaid i mi fyw hefo rŵan.”
Ychwanegodd Dale Evans ei fod wedi ystyried ymddeol o’r gamp, ond ei fod erbyn hyn wedi penderfynu ceisio ennill y Teitl Prydeinig yn enw Mike Towell.
Cafodd apêl i godi arian i deulu’r bocsiwr ei sefydlu gan un o bencampwyr bocsio’r byd, Ricky Hatton, ac mae bellach wedi codi mwy na £29,000.