Sam Warburton (llun: David Davies/PA)
Mae disgwyl i gapten tîm rygbi Cymru wynebu cyfres o sganiau yn dilyn anaf i asgwrn ei foch.

Fe wnaeth y Gleision golli am y tro cyntaf yn y Guinness Pro12 y tymor hwn wrth i Leinster ymweld â Pharc yr Arfau nos Sadwrn a’u curo o 16 i 13.

Yn fuan yn ystod y gêm, bu rhaid i Sam Warburton adael y cae gydag anaf i’w ben.

Eisoes, mae wedi gweld arbenigwr i asesu’r anaf, ac mae’n edrych yn debyg y gallai fod wedi torri asgwrn bychan yn ei foch, ac mae disgwyl i’r sganiau ddangos hynny’n gliriach.

Mae gêm gyntaf Cymru yng nghyfres profion yr Hydref yn cychwyn ar Dachwedd 5 yn erbyn Awstralia, gyda’r Ariannin, Siapan a De Affrica i ddilyn.