Mae dyn arfog wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl i naw o bobl gael eu hanafu mewn canolfan siopa yn Houston, meddai’r heddlu.
Cafodd y dyn arfog ei saethu yn y ganolfan siopa gan swyddogion tua 6.30yb ddydd Llun, meddai’r heddlu a bu farw yn y fan a’r lle. Nid oes adroddiadau bod unrhyw un arall yn gysylltiedig “ar hyn o bryd” a chafodd nifer o arfau eu darganfod ar y safle.
Dywed yr heddlu bod naw o bobl wedi’u hanafu ac mae dau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Mae’n debyg nad yw anafiadau’r bobl eraill yn rhai difrifol.
Yn ôl llygad dystion roedd y dyn arfog wedi cael ei weld yn tanio gwn at geir oedd yn pasio cyn i’r heddlu ei atal. Dywed yr awdurdodau mai cyfreithiwr oedd y dyn a gafodd ei saethu a’i fod wedi bod mewn anghydfod gyda’r cwmni lle’r oedd yn gweithio.
Daw’r digwyddiad ddyddiau’n unig ar ôl digwyddiad yn Washington pan gafodd pump o bobl eu saethu’n farw mewn canolfan siopa.
Ac ar 17 Medi, roedd dyn 20 oed wedi trywanu 10 o bobl mewn canolfan siopa yn Minnesota cyn cael ei saethu’n farw gan blismon.