Mae mesurau diogelwch mwy llym yn eu lle ar gyfer digwyddiad blynyddol Oktoberfest eleni yn dilyn yr ymosodiad brawychol diweddar ym Munich.
Mae disgwyl hyd at chwe miliwn o ymwelwyr yn y Theresienwiese yn y ddinas erbyn Hydref 3.
Rhaid i wydrau aros yn sych tan i’r digwyddiad gael ei agor yn swyddogol gan y Maer Dieter Reiter, pan fydd yn agor y gasgen gyntaf.
Fydd dim hawl gan ymwelwyr fynd â bagiau gyda nhw, ac fe fydd mwy o swyddogion diogelwch yn gwarchod y safle gan ddefnyddio camerâu cylch-cyfyng.
Cafodd naw o bobol eu saethu’n farw mewn canolfan siopa yn y ddinas ym mis Gorffennaf, cyn i’r saethwr ei ladd ei hun.
Gwnaeth y Wladwriaeth Islamaidd hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan.