Mae’r cyn-Archesgob Desmond Tutu yn ôl yn yr ysbyty am fod ganddo haint yn dilyn llawdriniaeth.

Fe dreuliodd Tutu, sy’n 84 oed, dair wythnos yn yr ysbyty yn ddiweddar yn dilyn triniaeth am ganser y prostad.

Fe fu’n dioddef o ganser ers sawl blwyddyn.

Roedd Tutu, oedd yn Archesgob Cape Town, yn wrthwynebydd i apartheid am flynyddoedd lawer, ac fe dderbyniodd wobr heddwch Nobel yn 1984 am ei waith.