Fe allai Prif Weinidog Prydain, Theresa May ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn mis Chwefror, yn ôl llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk.

Yn ôl Tusk, mae May wedi dweud wrtho ei bod hi’n paratoi i weithredu Cymal 50 fel bod modd dechrau’r broses ffurfiol ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Dydy’r trafodaethau ffurfiol ddim yn gallu dechrau tan bod Cymal 50 yn cael ei weithredu – a bydd hynny’n digwydd heb bleidlais gan aelodau seneddol, yn ôl Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Prydain yn llwyddo i aros yn rhan o’r farchnad sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Donald Tusk fod Theresa May wedi bod yn “agored ac onest iawn”.

“Dywedodd hi ei bod hi bron yn amhosib gweithredu Cymal 50 eleni ond ei bod yn debygol iawn y byddan nhw’n barod efallai ym mis Ionawr, efallai mis Chwefror y flwyddyn nesaf.”

Byddin Ewropeaidd

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, Syr Michael Fallon wedi addo gwrthwynebu unrhyw ymgais i sefydlu byddin yr Undeb Ewropeaidd tra bod Prydain yn rhan o’r undeb.

Wrth annerch yr Undeb Ewropeaidd ddydd Mercher, galwodd llywydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker ar i wledydd yr undeb gyd-dynnu yn y gobaith o sefydlu Cronfa Amddiffyn Ewrop erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond dywedodd Fallon y byddai Prydain yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i sefydlu byddin a allai fod yn wrthwynebydd i Nato.

Dywedodd wrth bapur newydd y Times: “Dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Rydyn ni’n aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd a byddwn yn parhau i wrthsefyll unrhyw ymgais i sefydlu gwrthwynebydd i Nato.

Dywedodd ei fod yn “gofidio am ddyblygu’r hyn sydd gyda ni yn Nato”.