Mae ymladdwyr ar y ddwy ochr yn rhyfel cartre’r Wcrain, yn dweud fod yna dorri amodau’r cadoediad a oedd i fod i ddod i rym am hanner nos neithiwr.

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd y gwrthryfelwyr y bydden nhw’n rhoi eu harfau i lawr, a ddydd Mercher, fe ddaeth cyhoeddiad gan weinidog tramor yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier, y byddai lluoedd llywdoraeth yr Wcrain hefyd yn rhoi’r gorau i gwffio.

Ond mae gorsafoedd teledu yn Rwsia yn adrodd fod gwrthryfelwyr wedi cael eu targedu â bomiau.

Fe fu gweinidogion tramor Ffrainc a’r Almaen yn cyfarfod arlywydd yr Wcrain ddoe, ac mae disgwyl iddyn nhw deithio i ddwyrain y wlad heddiw fel rhan o’u bwriad i lunio cynllun heddwch.