Mae un o bob pump gyrrwr car yng Nghymru yn cyfadde’ defnyddio ffôn symudol tra’i fod wrth lyw ei gar.
Mae adroddiad newydd gan gymdeithas foduro yr RAC yn dweud fod y defnydd anghyfreithlon o ffonau symudol wedi cyrraedd lefelau “epidemig”, gyda chymaint â 11 miliwn o bobol ledled gwledydd Prydain yn cyfadde’ gwneud neu dderbyn galwad tra’u bod nhw’n gyrru cerbyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod un o bob 10 gyrrwr yng Nghymru yn credu ei bod hi’n dderbyniol i agor negeseuon neu ymweld â chyfri’ gwefan gymdeithasol tra’u bod nhw’n eistedd mewn ciw traffig.
Mae un o bob 20 gyrrwr yn mynd cyn belled â dweud eu bod nhw’n defnyddio eu ffôn clyfar i dynnu lluniau neu wylio fideos tra’u bod nhw’n dreifio.
Yn ôl yr RAC, mae 7% o yrrwyr Cymru yn credu ei bod hi’n dderbyniol derbyn galwad sydyn tra’n gyrru. Mae’r ganran hon wedi mwy na threblu o 2% yn 2014 i 7% yn 2016, ac mae’r RAC yn dweud fod agwedd pobol tuag at ddefnyddio teclynnau wedi newid yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.