Map Syria
Mae’r rhyfela yn Syria wedi gostegu ar y cyfan ers i gadoediad yn y wlad ddod i rym nos Lun.

Ac eithrio ambell ymosodiad yn ardal Hama, dywedodd llefarydd o’r Arsyllfa Hawliau Dynol yn Syria bod “heddwch wedi cyrraedd” y rhan fwyaf o’r wlad.

Mae grŵp gweithredol arall yn adrodd am saethu yn ardal Aleppo a Quneitra, ond am y tro cyntaf ers 2011, yn dweud bod y ffraeo yn Daraa wedi tawelu.

Penderfynwyd ar gadoediad yn Syria yn dilyn trafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia dros y penwythnos.

Fe allai’r cadoediad hefyd gael ei ddilyn gan bartneriaeth filwrol newydd rhwng y ddwy lywodraeth er mwyn mynd i’r afael â bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac Al Qaida.