Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Mae’r ymgeisydd arlywyddol Hillary Clinton wedi ceisio wfftio pryderon am ei hiechyd trwy ddweud nad oedd hi’n meddwl bod ei diagnosis o niwmonia “yn ddim byd gweth son amdano.”
Fe ddywedodd wrth wasanaeth newyddion CNN ei bod wedi dweud wrth ei swyddogion am y salwch, ond wedi penderfynu peidio dweud wrth y cyhoedd.
Fe gafodd ymgeisydd y Democratiaid, sy’n 68 oed, ei tharo’n wael yn ystod gwasanaeth coffa i gofio’r rhai fu farw yn ymosodiadau brawychol 11 Medi yn Efrog Newydd.
Mae ei gwrthwynebydd yn y ras arlywyddol, y Gweriniaethwr Donald Trump, sy’n 70 oed, wedi dweud ers rhai misoedd nad oes ganddi ddigon o egni i fedru rhoi ymdrech llawn i’r swydd.
Mae eraill wedi honni nad yw Hillary Clinton yn ddigon agored gyda’r cyhoedd ond mae hi wedi dweud y bydd yn rhannu manylion am ei salwch yn ddiweddarach yn yr wythnos.