Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe ddydd Llun, Medi 12.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ ar stryd Mead yn ardal Dyfnant am 6.08yh nos Lun.
Nid yw’r ddynes wedi’i henwi’n swyddogol eto, ond mae ei theulu a’r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth.
Mae’r Heddlu’n cynnal ymchwiliad ar y cyd â’r Gwasanaethau Tân ac Achub i ganfod achos y tân.