Amina Al-Jeffery, Llun: PA
Mae achos y ferch sy’n honni ei bod wedi’i chaethiwo gan ei thad yn Sawdi Arabia yn cael ei glywed unwaith eto yn yr Uchel Lys heddiw.
Daw hyn wedi i dad y ferch, Mohammed Al-Jeffery, fethu ag ymrwymo i orchymyn gan yr Uchel Lys i ddychwelyd ei ferch i Brydain erbyn 4pm dydd Sul, Medi 11.
Am hynny, mae gwrandawiad arall yn cael ei gynnal heddiw i achos Amina Al-Jeffery, 21 oed, a gafodd ei magu yn Abertawe.
Fe gafodd ei hachos ei gyfeirio’n wreiddiol at yr Uchel Lys wedi iddi honni bod ei thad wedi ei chloi yn ei hystafell am iddi “gusanu dyn.”
Yn yr Uchel Lys ar ddechrau’r mis, dywedodd y barnwr bod yr achos yn un “anarferol iawn,” gan ddod i’r casgliad bod rhyddid Amina Al-Jeffery “wedi ei gyfyngu.’
Clywodd yr Uchel Lys hefyd fod gan y ferch ddinasyddiaeth ddwbl rhwng Prydain a Sawdi Arabia.