Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn 86 oed, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth ei wraig, wedi marw yn yr ysbyty.
Cafodd Angus Mayer, 86, ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Margaret Mayer, 85, oriau’n unig ar ôl iddo gael ei daro gan drên nol ym mis Gorffennaf.
Cafodd anafiadau i’w goes a chafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei daro gan y trên yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Ar ôl cael ei holi gan yr heddlu, daeth swyddogion o hyd i gorff ei wraig oedrannus yn ei gartref yn Heol Fairfax yn y Mynydd Bychan, Caerdydd ar 28 Gorffennaf.
Roedd Margaret Mayer yn dioddef o ddementia ac yn cael gofal yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Cafodd Angus Mayer ei ryddhau ar fechniaeth ac ni chafodd ei gyhuddo.
Dywed Heddlu’r De bod y crwner wedi cael ei hysbysu.