'Ground Zero' yn Efrog Newydd
Mae cannoedd o bobol wedi bod yn talu teyrnged i’r bobol a gafodd eu lladd yn dilyn ymosodiadau 9/11 yn yr Unol Daleithiau yn 2001.
Cafwyd munud o dawelwch i nodi pymtheg mlynedd ers i awyren daro Canolfan Masnach y Byd, a chafodd enwau bron i 3,000 o bobol a gafodd eu lladd eu darllen yn uchel.
Roedd disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama annerch cynulleidfa yn y Pentagon, un arall o’r adeiladau a gafodd ei daro, tra bod seremoni arbennig ger cofeb Flight 93 yn Shanksville yn Pennsylvania, lle daeth trydedd awyren i’r ddaear mewn cae.
Er bod yr ymgyrch arlywyddol yn parhau – ond heb hysbysebion teledu – roedd Hillary Clinton a Donald Trump yn bresennol yng Nghanolfan Masnach y Byd.