Erdogan wedi ymrwymo i ddinistrio IS
Mae Twrci yn honni eu bod nhw wedi lladd 20 o filwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn ystod cyrchoedd awyr tros Syria.

Cafodd tri adeilad eu taro yn ystod y cyrchoedd, meddai’r awdurdodau.

Cafodd dau gerbyd eu dinistrio, yn ogystal.

Daw’r cyrchoedd ddiwrnodau cyn i gadoediad a gafodd ei drefnu gan yr Unol Daleithiau a Rwsia ddod i rym.

Dywedodd Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan fod Twrci wedi ymroi o hyd i ddinistrio’r Wladwriaeth Islamaidd.