Mae bwyler wedi ffrwydro gan achosi tân sydd wedi lladd 21 o bobol ac wedi anafu dwsinau o bobol mewn ffatri ym Mangladesh.
Mae nifer o gyrff eisoes wedi cael eu tynnu o’r ffatri yn Tongi ger Dhaka.
Cadarnhaodd meddyg fod naw o gyrff yn yr ysbyty yn aros i deuluoedd eu hadnabod.
Cafodd 19 o bobol eu cludo i’r ysbyty, a bu farw tri ohonyn nhw o ganlyniad i losgiadau.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau tebyg yn y wlad, sy’n darparu dillad i gwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys Wal-Mart a H&M.