Mae’n well gan berchnogion busnesau Prydain chwarae golff na chyflawni eu dyletswyddau fel allforwyr, yn ôl Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Prydain, Dr Liam Fox.

Mae Fox wedi lladd ar ddiwylliant “diog” y byd busnes, gan ddweud bod Prydain wedi colli ei ffordd yn y byd masnachu a’i bod yn “rhy dew” ar ôl bwydo oddi ar lwyddiant cenedlaethau’r gorffennol.

Ond mae swyddfa’r Prif Weinidog Theresa May wedi ymbellhau oddi wrth ei sylwadau, a gafodd eu gwneud yn ystod derbyniad i gangen o Geidwadwyr sy’n dilyn egwyddorion Thatcheriaeth, gan ddweud mai mynegi “safbwyntiau preifat” yr oedd Fox.

Dywedodd llefarydd ar ei ran ei fod e’n ymroddedig o hyd i gefnogi busnesau Prydain.

Yn ystod y derbyniad, dywedodd Fox: “Rhaid i ni newid y diwylliant yn ein gwlad. Mae’n rhaid i bobol roi’r gorau i feddwl am allforio fel cyfle a dechrau meddwl amdano fel dyletswydd – cwmnïau a allai fod yn cyfannu i’n llewyrch cenedlaethol ond sy’n dewis peidio oherwydd y gallai fod yn rhy anodd neu’n cymryd gormod o amser, neu am na allan nhw chwarae golff ar brynhawn dydd Gwener.”

Yn ôl papur newydd The Times, dywedodd Fox: “Dydy’r wlad hon ddim y wlad masnachu rhydd yr oedd hi unwaith. Rydyn ni wedi mynd yn rhy ddiog, ac yn rhy dew ar ein llwyddiannau mewn cenedlaethau blaenorol.”

Yn ystod ei araith, gwnaeth Fox feirniadu “safbwynt y Swyddfa Dramor o’r byd” am ganolbwyntio ar brifddinasoedd a diplomyddiaeth yn hytrach na masnach.

Bywyd ar ôl yr Undeb Ewropeaidd

Dywedodd Fox, oedd yn frwd dros adael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd y DU yn gallu sicrhau cytundeb “unigryw” ar ôl sicrhau Brexit.

“Ry’n ni’n adeiladu rhywbeth unigryw ac ry’n ni’n mynd i ddylunio ffyrdd o wneud busnes yn y byd sydd yn hollol wahanol i unrhyw beth y mae’r cyfyngiadau presennol yn ein galluogi ni i’w wneud.”

Dywedodd hefyd y bydd polisi buddsoddi’n rhoi mwy o bwyslais ar fusnesau Prydain yn buddsoddi mewn prosiectau tramor, yn hytrach nag annog busnesau o dramor i fuddsoddi yn y DU.

Ond fe awgrymodd na fyddai’r llywodraeth yn cynnal diwydiannau megis dur gan fod “gwarchod bob amser yn gorffen gyda dagrau”.

Ond fe bwysleisiodd Downing Street unwaith eto ei fod e’n mynegi safbwyntiau personol, ac mae ei sylwadau wedi cael eu beirniadu gan y Blaid Lafur yn San Steffan.