Mae erlynwyr yn Awstria wedi cyhuddo dau ddyn o fod yn rhan o sefydliad terfysgaidd, fel rhan o’u ymchwiliadau i’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis y llynedd a laddodd 130 o bobol.

Mae datganiad gan yr erlynwyr yn Salzburg yn cadarnhau bod dau ddyn wedi’u cyhuddo o gynorthwyo dau ddyn arall a gafodd eu estraddodi o Awstria yn gynharach eleni.

Mae’r ddau ddiweddara’ i gael eu cyhuddo  wedi’u disgrifio fel dyn 26 oed o dras Morocaidd, a dyn 40 oed o dras Algeraidd. Mae rheolau cyfrinachedd yn Awstria yn eu rhwystro rhag cyhoeddi eu henwau.

Mae’r ddau ddyn hefyd wedi’u cyhuddo o fod yn aelodau o sefydliad troseddol.