Fe allai aelodau mainc gefn y Torïaid wrthryfela yn erbyn cynlluniau i ostwng nifer aelodau Ty’r Cyffedin i 600, tra bod nifer aelodau Ty’r Arglwyddi ar gynnydd.

Mae’r cynllun wedi’i alw’n un “gwyrdroedig” heddiw. Ac nid yw’n syndod gan y bydd nifer o benodiadau i Dy’r Arglwyddi dros yr wythnosau nesa’ yn mynd â chyfanswm aelodau Ty’r Arglwyddi heibio 800.

Ond nid Torïaid yw’r unig rai i gwyno am hyn. Fe ddaeth beirniadaeth hefyd gan Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur tros Orllewin Caerdydd. Mae’n dadlau bod angen mwy o ASau gan fod y boblogaeth wedi tyfu.

“R’yn ni’n gweithredu ar ffigyrau poblogaeth 2001, sydd wedi dyddio,” meddai. “Mae yna newid mawr wedi bod yn y boblogaeth ers hynny, ac mae jyst yn anghywir ein bod ni’n cario ymlaen dan drefn lle mae maint pob etholaeth yn amrywio cymaint.

“Yn ymarferol,” meddai Kevin Brennan wedyn, “mae hynny’n golygu fod yna anghyfartaledd mawr rhwng gwerth y bleidlais mewn gwahanol etholaethau.”