Liz Saville Roberts a Fiona, y daschund
Mae ci un o Aelodau Seneddol Cymru wedi dod yn drydydd am deitl ‘Ci y Flwyddyn’ San Steffan.

Daeth Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, a Fiona, y dachshund pedwar mis oed, yn drydydd yn y gwobrau, yn erbyn 23 o Aelod Seneddol eraill a’u cŵn.

Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu i godi ymwybyddiaeth o les cŵn ac yn benodol eleni, yr angen am addysg i sicrhau bod plant yn deall sut i gadw’n ddiogel o gwmpas cŵn.

Mae Fiona’r dachshund bellach wedi dod o hyd i gartref parhaol a bydd yn symud i’w chartref newydd yr wythnos hon.

Rhybudd i ddarpar berchnogion cŵn

“Dw i’n falch iawn o fod ar bodiwm yr enillwyr gydag Fiona’r dachshund. Roedd hefyd yn fraint o allu bod gyda chi o’r Dogs Trust, gan fod hyn yn gyfle i godi materion lles,” meddai Liz Saville Roberts.

“Roedd y ci bach hwn wedi cael ei gymryd gan swyddogion rheoli ffiniau o smyglwyr cŵn bach oedd am wneud arian o fridiau pedigrî oedd wedi cael eu mewnforio’n anghyfreithlon.

Dywedodd mai smyglo cŵn bach yw un o’r troseddau mwyaf proffidiol yn y byd, oni bai am smyglo cyffuriau.

“(Mae) cŵn bach yn cael eu cymryd o’u mamau yn rhy ifanc ac yn cael eu mewnforio heb frechiadau angenrheidiol. Mae llawer yn marw wrth gael eu cludo neu pan fyddan nhw wedi cael eu gwerthu i deuluoedd.

“Roedd Fiona’n un o’r rhai lwcus, yn aml mae smyglwyr yn dympio cŵn bach ac yn eu gadael i’w cael eu difa gan yr awdurdodau.

Rhybuddiodd y dylai bobol sydd am brynu ci bach fynnu cael gweld y fam cyn gwneud dim.