Mae Unol Daleithiau America a China wedi arwyddo Cytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r cyhoeddiad gan y ddwy wlad yn cael ei weld fel cam pwysig ymlaen at ymrwymiad byd-eang.

Er mwyn i Gytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd gael ei weithredu, mae’n rhaid i o leiaf 55 o wledydd sy’n gyfrifol am 55% o allyriadau carbon y byd ei gadarnhau.

Cyn y cyhoeddiad gan America a China, roedd y cytundeb wedi cael ei gadarnhau gan 24 o wledydd sy’n cyfrif am tua 1% o allyriadau’r byd. Mae’r ddwy wlad fawr bellach wedi codi’r ffigur hwnnw i 39%.

Meddai pennaeth hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, Patricia Espinosa:

“Hoffwn ddiolch i China a’r Unol Daleithiau am gadarnhau’r cytundeb allweddol hwn – cytundeb sy’n rhoi’r cyfle am ddyfodol cynaliadwy i bob cenedl a phob person.

“Po gyntaf y bydd Cytundeb Paris yn cael ei gadarnhau a’i weithredu’n llawn, y mwyaf sicr y bydd y dyfodol hwnnw.”

Cafodd Cytundeb Paris ei lunio yn Paris fis Rhagfyr y llynedd.

Mae’r cyhoeddiad wedi arwain at alwadau gan fudiadau amgylcheddol a dyngarol ar i Lywodraeth Prydain wneud yr un peth.