Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi addo hwb ariannol o fuddsoddiad gwerth £30 biliwn i dde-ddwyrain Lloegr os daw’n Brif Weinidog.

Mae’n cefnogi banc buddsoddi i’r ardal, mwy o bwyslais ar ynni adnewyddadwy i gymunedau arfordirol a gwell band llydan.

Fe fydd yn annerch rali yn Ramsgate heddiw fel rhan o’i ymgyrch i ddal gafael ar arweinyddiaeth ei blaid.

Dywed y bydd Llafur yn sicrhau y bydd cyllid buddsoddi’n mynd i’r rhannau o Brydain sydd cael eu gadael ar ôl.