Mae Irac wedi lladd 36 o ddynion oedd wedi’u cyhuddo o gymryd rhan mewn ymosodiad gan y Wladwriaeth Islamaidd ar gannoedd o filwyr yn 2014.

Fe grogwyd y dynion yng ngharchar Nasiriyah yn ne’r wlad heddiw.

Yn haf 2014, fe aeth IS ati i ddal 1,700 o filwyr o safle milwrol Speicher pan lwyddodd i gipio dinas ogleddol Tikrit. Aeth ati wedyn i gyhoeddi delweddau graffig ar-lein o’r milwyr yn cael eu leinio i fyny a’u saethu.

Roedd y dynion a gafodd eu lladd heddiw wedi’u harestio wedi i luoedd Irac ail-feddiannu dinas Tikrit yn 2015, ac fe gawson nhw eu dedfrydu i farwolaeth gan lys barn yn gynharach eleni.