AIDAvita (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod cyfle i ddenu rhagor o ymwelwyr i Gymru ar ôl i’r llong fordeithio fwya’ eto fwrw angor yn Abergwaun ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Llwyddodd y llong anferth i ddocio yn Sir Benfro yn gyda chymorth grant o £147,598 gan y Llywodraeth i adeiladu pontŵn i helpu teithwyr i ddod i’r lan.

Yn ôl yr Ysgrifennydd tros yr Economi, mae datblygiadau o’r fath yn rhan o strategaeth i gynyddu’r diwydiant twristiaeth o 10% erbyn 2020.

Mae’r AIDAVita yn yn 202 o fetrau o hyd, yn pwyso 42,290 o dunelli ac yn cario 1,260 o deithwyr.

Y disgwyl yw y bydd 58 o longau mordeithio eraill yn docio yng Nghymru eleni, sy’n gynnydd o 20% ar y llynedd.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r diwydiant llongau mordeithio werth £2.9 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, meddai’r Llywodraeth.

“Rwy’n falch iawn fod Abergwaun bellach yn gallu croesawu llongau mwy ac rwy’n gobeithio gweld twf pellach yn nifer y llongau sy’n dod i Gymru i fwynhau’r hyn sydd gan y wlad i’w chynnig,” meddai Ken Skates.

Mae gwibdeithiau’r llongau mordeithio fel arfer yn cynnwys ymweld ag Ynys Bŷr, Gwarchodfa Natur Sgomer, Tyddewi a Phenfro, Castell Caeriw a Dinbych-y-pysgod.