Ali Abdullah Saleh, a gafodd ei orfodi o'i swydd yn 2012
Mae cannoedd o filoedd o bobol Yemen wedi gorymdeithio heddiw er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r gwrthryfelwyr Houthi Shiaidd a’u harweinydd, y cyn-arlywydd Ali Abdullah Saleh.

Roedd yr orymdaith yn y brifddinas, Sanaa, er mwyn dangos cefnogaeth i gyngor gweithredol newydd sydd bellach mewn grym ers mis, ond sydd heb dderbyn sêl bendith y Cenhedloedd Unedig.

Fe fu’n rhaid i Ali Abdullah Saleh ildio’i swydd yn 2012 yn ystod protestiadau’r Gwanwyn Arabaidd, a hynny wedi mwy na 30 mlynedd mewn grym.

Fe gipiodd yr Houthis rym yn 2014, ac fe ddechreuodd lluoedd y Cenhedloedd Unedig geisio eu gorchfygu ym mis Mawrth 2015.