Mae’r gantores Demi Lovato wedi cael ei beirniadu ar ôl chwerthin mewn fideo sy’n dangos ei mam yn dweud y byddai “pawb lawr yn Rio yn cael y firws Zika”.
Yn y misoedd cyn i’r Gemau Olympaidd ddechrau ym Mrasil, fe fu amheuon am y firws, gyda nifer o athletwyr yn tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth oherwydd eu pryderon.
Mewn ‘stori’ Snapchat, a gafodd ei rhannu gan Lovato, mae ei mam Dianna Hart yn yfed alcohol ac yn chwerthin am y firws.
Mae’r firws yn achosi nam ymhlith babanod.
Roedd #DemiLovatoIsOverParty yn trendio ar Twitter ar ôl iddi rannu’r fideo, ac mae hi wedi cael ei beirniadu’n helaeth gan ddefnyddwyr y wefan gymdeithasol.
Ond mae eraill wedi amddiffyn y gantores, gan ddweud mai ei mam sydd ar fai.
Dydy Demi Lovato ddim wedi ymateb i’r ffrae hyd yn hyn.