Disgwyl hyd at 1,000 o bobol yng Nghaerdydd ar gyfer y digwyddiad ddydd Sadwrn
Mae disgwyl i hyd at 1,000 o bobol ymgynnull yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer Pride Cymru, sy’n wynebu dyfodol ansicr.
Mae amheuon a fydd y digwyddiad, sy’n ddathliad o’r gymuned LGBT, yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.
Fel rhan o’r digwyddiad eleni, fe fydd gorymdaith drwy’r brifddinas, a chyfres o ddigwyddiadau yng Nghae Cooper ger Gerddi Sophia.
Ond fe fu “heriau”, yn ôl Cyngor Caerdydd, wrth geisio dod o hyd i ddyddiad addas ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fe fydd yr ardal yn cael ei defnyddio fel ffan-barth ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth bêl-droed Cynghrair y Pencampwyr, a’r gwaith o ail-osod glaswellt yn dechrau’r adeg hon y flwyddyn nesaf.
Ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn ystod y digwyddiad mae’r actores a’r gantores Heather Peace, Danny Beard (Britain’s Got Talent), Joe a Jake, y band B*Witched, a’r cystadleuwyr o raglen ‘The Voice’ y BBC, Jordan Gray a Leighton Jones.
Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan www.pridecymru.co.uk