Mae heddlu yn Fflorida wedi cadarnhau fod plismon, ar ddamwain, wedi saethu’n farw ddynes yn ystod ymarfer.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Punta Gorda yn dweud fod y llyfrgellydd, Mary Knowlton, yn cymryd rhan mewn ymarfer chwarae rôl nos Fawrth pan gafodd ei chamgymryd am rywun oedd yn cario arf byw.

Fe gafodd y llyfrgellydd ei saethu’n farw gyda rownd o fwledi byw, ar ddamwain. Fe gafodd ei chludo i’r ysbyty, lle cafodd ei chyhoeddi’n farw.

Dydi enw’r plismon ddim wedi’i gyhoeddi, ac mae’r swyddog dan sylw wedi’i anfon adre’ o’i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gwblhau.