Mae cyn-athletwraig o Bowys wedi ymddangos gerbron llys yn Birmingham ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae Lauren Jeska, 41, o Fachynlleth wedi ei chadw yn y ddalfa tan Awst 30, yn dilyn ei hymddangosiad gerbron Llys y Goron Birmingham heddiw.

Mae’r rhedwraig wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio cyn-chwaraewr rygbi Lloegr, ac o ddau achos arall o fwriadu achosi niwed corfforol difrifol, a hynny wedi digwyddiad mewn stadiwm athletau yn Birminghan yn gynharach eleni.

Fe gafodd Ralph Knibbs, cyn-chwaraewr rygbi Lloegr sydd bellach yn bennaeth adnoddau dynol gyda’r corff, UK Athletics, ei drywanu yn Birmingham ym mis Mawrth eleni, a bu’n rhaid ei ruthro i’r ysbyty.

Wnaeth Lauren Jeska ddim cyflwyno plê heddiw.