Mae ymdrech gynta’ Awstralia i gynnal Cyfrifiad ar-lein, mewn anhrefn llwyr, wedi cyfres o ymosodiadau seibr ar y wefan.
Mae Biwro Ystadegau Awstralia wedi cau’r wefan er mwyn diogelu’r data sydd eisoes wedi’i gasglu, a hynny ar ôl pedwar ymosodiad gan hacwyr o dramor.
“Ymosodiadau oedden nhw,” meddai llefarydd ar ran y Biwro. “Ac mae’n reit glir eu bod yn ymosodiadau maleisus.”
Mae manylion personol y ddwy filiwn o Awstraliaid a lwyddodd i gael mynediad i’r wefan cyn iddi gael ei chau i lawr, yn gwbwl ddiogel, meddai’r Biwro. Yn hytrach nag ymosod ar y wybodaeth, ymosodiadau ar y sustem oedden nhw.