Mae rhanddeiliaid Cymdeithas Tai Cantref wedi pleidleisio bron yn unfrydol o blaid uno â Chymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin.
Cafodd y bleidlais ei chynnal yng Nghastell Newydd Emlyn, lle cefnogodd 27 allan o 30 o bobol y cynnig.
Roedd angen 75% o’r pleidleiswyr i gefnogi’r cynnig er mwyn i’r cynllun fynd rhagddo.
Daw’r newyddion ar ôl ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, a bydd ail gyfarfod ar Awst 23 i gadarnhau’r bleidlais.
Ond mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch diffyg defnydd Cymdeithas Tai Cymru o’r Gorllewin o’r Gymraeg, ynghyd â’u diffyg defnydd o gontractwyr lleol ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Mae Cantref yn rhentu tai fforddiadwy i bron i 1,500 o denantiaid yng Ngheredigion, Penfro, Powys a Sir Gâr. Y disgwyl yw y gallai’r ddwy gymdeithas fod wedi uno’n llawn erbyn yr hydref.