Recep Tayyip Erdogan, arlywydd Twrci
Mae arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, wedi cyrraedd Rwsia ar gyfer trafodaethau gyda Vladimir Putin. Y prif fwriad ydi codi pontydd wedi i awyren ryfel o Rwsia gael ei saethu i’r ddaear ar y ffin rhwng Twrci a Syria y llynedd.

Ond fe all bod Mr Erdogan hefyd yn gobeithio defnyddio cefnogaeth gan Rwsia fel ffordd o roi mwy o hygrededd i’w drafodaethau gyda’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd.

O’i ran o, mae Vladimir Putin yn awyddus i drwsio’r berthynas rhwng Rwsia a Thwrci ac adnewyddu rhai prosiectau economaidd – yn cynnwys pibell i gario nwy o Dwrci. Fe allai gwella’r berthynas gyda Twrci hefyd yn ffordd o gael troedle gadarnach yn Syria.

Fe ddaeth achos yr awyren a gafodd ei saethu i’r ddaear ym mis Tachwedd y llynedd fel “cyllell yn y cefn”, yn ôl Mr Putin ar y pryd. Bryd hynny, roedd tensiynau mawr tros Syria, lle’r oedd Mosgow ac Ankara yn cefnogi ochrau gwahanol.