Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod y gwasanaethau brys ar eu ffordd i ymateb i ddigwyddiad ar fynydd ucha’ Cymru.

Fe ddaw’r cadarnhad wrth i rai cerddwyr  bostio ar wefannau cymdeithasol fel Twitter bod hofrennydd wedi disgyn o’r awyr ar ochr Yr Wyddfa, a bod mwg hyd at ddeg troedfedd i’w weld yn codi o’r llethr.

Mae adroddiadau eraill yn honni mai hofrennydd yr Awyrlu sydd wedi’i gweld yng nghyffiniau Llwybr Watkin.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cadarnhau hefyd eu bod nhw wedi’u galw am 1.50yp heddiw.

Dydi hi ddim yn glir eto os mai glanio neu gwympo ar y mynydd a wnaeth yr hofrennyd, cyn mynd ar dân. Ond mae’r criw wedi dod allan o’r hofrennydd yn ddiogel, a does neb wedi’i anafu.